Dyrchafer enw Iesu cu

 


Dyrchafer enw Iesu cu
Gan seintiau îs y nen,
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch ef yn ben!


Angylion glân, sy’n gwylio’n gylch
Oddeutu’i orsedd wen,
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch ef yn ben.


Hardd lu’r merthyri, sydd uwchlaw
Erlyniaeth, braw a sen,
 llafar glod ac uchel lef
Coronwch ef yn ben.


Yr holl broffwydi’n awr sy’n gweld
Y Meichiau mawr heb len,
A’i apostolion yn gyd-lef,
Coronwch ef yn ben.


Pob perchen anadl ymhob man
Dan gwmpas haul y nen,
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
Coronwch ef yn ben.


Yn uchaf oll bo enw’r hwn
Fu farw ar y pren;
Trwy’r ddaear faith ac yn y nef,
Coronwch ef yn ben.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *