Tawel Nos

 


Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylion dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd;
Iesu T’wysog ein hedd.


Sanctaidd nos gyda’i ser;
Mantell fwyn,cariad per
Mintai’r bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd;
Iesu T’wysog ein hedd.


Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddi’r engyl, a’r Ne’n trugarhau;
Baban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu, T’wysog ein hedd;
Iesu, T’wysog ein hedd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *