Mae D’Eisiau Di Bob Awr

 


Mae d’eisiau di bob awr,
Fy Arglwydd Dduw,
Daw hedd o’th dyner lais
O nefol ryw.


Refrain
Mae d’eisiau, O mae d’eisiau,
Bob awr mae arnaf d’eisiau,
Bendithia fi, fy Ngheidwad,
Bendithia nawr.


Mae d’eisiau di bob awr,
Trig gyda mi,
Cyll temtasiynau’u grym
Yn d’ymyl di.


Mae d’eisiau di bob awr,
Rho d’olau clir,
Rho imi nerth, a blas
Dy eiriau gwir.


Mae d’eisiau di bob awr,
Sancteiddiaf Ri,
Yn Iesu gwna fi’n wir
Yn eiddot ti.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *